Cofnodion - Y Pwyllgor Busnes


Lleoliad:

Ar-lein

Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Rhagfyr 2024

Amser: 09.01 - 09.34
 


O bell / Preifat

------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau o'r Senedd:

Y Gwir Anrh. Elin Jones AS (Cadeirydd)

Heledd Fychan AS

Jane Hutt AS

Darren Millar AS

Staff y Pwyllgor:

Graeme Francis (Clerc)

Yan Thomas (Dirprwy Glerc)

Eraill a oedd yn bresennol:

David Rees AS, y Dirprwy Lywydd

Jane Dodds AS

Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc

Mathew Richards, Cyfarwyddwr Dros Dro Busnes y Senedd

Bethan Davies, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau

Julian Luke, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth

Siân Wilkins, Pennaeth Gweithdrefnau a Sgiliau Seneddol

Helen Carey, Llywodraeth Cymru

Helen Finlayson,  Clerc ar gyfer Adolygiad Gweithdrefnol Deddfwriaethol

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

</AI1>

<AI2>

2       Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod blaenorol i’w cyhoeddi.

</AI2>

<AI3>

3       Trefn Busnes

</AI3>

<AI4>

3.1   Busnes yr wythnos hon

Dydd Mawrth

Rhoddodd y Trefnydd wybod i’r Rheolwyr Busnes am y newid a ganlyn i Fusnes yr Wythnos Hon:

·         Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni (45 30 munud)

 

·         Caiff y Cyfnod Pleidleisio ei gynnal fel yr eitem olaf o fusnes.

·         Nid yw'r Cyfarfod Llawn yn debygol o fynd y tu hwnt i 6.35pm

 

Nododd Heledd Fychan ei bod yn debygol y bydd diddordeb sylweddol gan yr Aelodau yn y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai ar y Datganiad sefyllfa canol trefi.

 

Dydd Mercher

</AI4>

<AI5>

3.2   Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf

Nododd y Trefnydd nad oes unrhyw newidiadau i amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.

 

Gofynnodd Jane Dodds a fyddai datganiad llafar ar y Cynllun Lles Anifeiliaid yn cael ei drefnu cyn y toriad, yng ngoleuni ymrwymiad blaenorol a wnaed. Dywedodd y Trefnydd y byddai'n ystyried y cais.

</AI5>

<AI6>

3.3   Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf

Cytunwyd ar y newidiadau a ganlyn i amserlen Busnes y Senedd ar gyfer y tair wythnos nesaf:

Dydd Mercher 11 Rhagfyr 2024

Dydd Mercher 15 Ionawr 2025 -

</AI6>

<AI7>

3.4   Cais i amserlennu dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8755

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais gan Sioned Williams i amser gael ei roi i gynnal dadl ar Gynnig Heb Ddyddiad Trafod 8755 ynghylch y gwrthdaro yn Israel a Gaza.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal trafodaethau pellach rhwng pleidiau gyda'r bwriad o amserlennu dadl ar y mater hwn ar sail drawsbleidiol yn y dyfodol agos.

</AI7>

<AI8>

4       Deddfwriaeth

</AI8>

<AI9>

4.1   Ymateb gan Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd, a Seilwaith ynghylch y Bil Hen Glofeydd a Thomennydd Chwareli (Cymru)

Trafododd y Pwyllgor Busnes ymateb gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a chytunodd ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer craffu ar y Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru).

</AI9>

<AI10>

4.8   Diweddariad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Trafododd y Pwyllgor Busnes bapur diweddaru ar y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i:

 

</AI10>

<AI11>

5       Pwyllgorau

</AI11>

<AI12>

5.1   Craffu gan y Pwyllgor ar Orchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth Pobl) 2025

Trafododd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer hwyluso gwaith craffu pwyllgorau ar ferswin ddrafft Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 a chytunodd i:

 

</AI12>

<AI13>

5.2   Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ynghylch cyfarfod Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol

Trafododd y Pwyllgor Busnes gais i aelodau'r Pwyllgor Cyllid deithio i Belfast ddydd Mawrth 18 Mawrth 2025 i fod yn bresennol mewn cyfarfod o Fforwm y Pwyllgorau Cyllid Rhyngseneddol ac, yn amodol ar drefniadau teithio, i'w hesgusodi o'r Cyfarfod Llawn ar 18 a 19 Mawrth, a chytunodd iddo. 

</AI13>

<AI14>

6       Gwaith Gweithdrefnol

</AI14>

<AI15>

6.1   Adolygiad o'r prosesau craffu deddfwriaethol ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau: cwmpasu cychwynnol

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur cwmpasu cychwynnol yn cynnwys cwmpas, dull ac amserlenni arfaethedig ar gyfer adolygu prosesau Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelodau.

 

Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y cynigion (yn amodol ar fân newidiadau) a gwnaethant gais am wybodaeth gefndirol o ran trefniadau mewn seneddau eraill ar gyfer Memoranda Esboniadol a Biliau Aelodau.

</AI15>

<AI16>

6.2   Llythyr gan Gadeirydd Pwyllgor y Senedd yn y Dyfodol ynghylch adolygiadau gweithdrefnol o brosesau Bil cyhoeddus a Biliau Aelodau

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd y bydd yn ymateb i rannu manylion ei ddull, ei amserlenni a'i fwriadau ar gyfer yr adolygiadau deddfwriaethol, gan gynnwys cyfleoedd i'r Aelodau gyfrannu.

</AI16>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>